Croeso i Cyhoeddi Cymru | Publishing Wales
Mae corff newid wedi’i sefydlu i gynrychioli cyhoeddwyr yng Nghymru
Cyhoeddi Cymru Publishing Wales
Nod CCPW yw bod yn llais cydnabyddedig, awdurdodol i'r sector cyhoeddi yng Nghymru, gan gynrychioli holl gyhoeddwyr Cymru er ein budd cyfunol ac er mwyn hyrwyddo'r sector. Sefydlwyd CCPW gan gasgliad bach o gyhoeddwyr o wahanol leoliadau, marchnadoedd targed, a fformatau o bob cwr o Gymru, ar ôl cydnabod absenoldeb hunaniaeth a llais cyhoeddi penodol i gyhoeddwyr yng Nghymru.
Bydd y sefydliad yn cefnogi aelodau i ehangu ein cyrhaeddiad ledled y byd a bydd yn meithrin amgylchedd uchelgeisiol, cefnogol a phroffesiynol lle bydd sector cyhoeddi Cymru yn gallu ffynnu. Cydnabyddir yr aelodau yn rhyngwladol am eu rhagoriaeth yn y sector cyhoeddi, eu cynnwys creadigol ac am eu blaengaredd cyhoeddi arloesol.
Aelodaeth
Mae CCPW yn gweithredu'n ddwyieithog a bydd aelodaeth yn agored i gyhoeddwyr cymwys sydd â'u pencadlys yng Nghymru.
Ymunwch â ni i ddatblygu CCPW
Rydym wedi cyhoeddi ein gweledigaeth a’n hamcanion isod, a byddem yn croesawu eich mewnbwn neu'ch adborth ar unrhyw agwedd ar ffurfio CCPW a’i gynnal. Gobeithio y byddwch chi’n ymuno â ni ar y daith gyffrous hon.Gweinyddwr
Ein gweinyddwr yw Sian Evans, sy'n gofalu am redeg CCPW o ddydd i ddydd. Cysylltwch â Sian drwy e-bost: post@cyhoeddi.cymru
Gweledigaeth: Hyrwyddo a datblygu cyhoeddi o Gymru i'r Byd
Ein nod yw bod yn llais cydnabyddedig, awdurdodol i'r sector cyhoeddi yng Nghymru, gan gydweithio â’r holl gyhoeddwyr yng Nghymru, er budd pob un ohonynt ac i hyrwyddo'r sector. Cydnabyddir yr aelodau yn rhyngwladol am eu rhagoriaeth yn y sector cyhoeddi, am eu cynnwys creadigol ac am eu dulliau cyhoeddi arloesol.
Nodau - 6 nod Cyhoeddi Cymru Publishing Wales yw:
Creu undod ymhlith y sector cyhoeddi yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd yn gyffredin rhyngom.
Creu cymuned, yn seiliedig ar ddiddordeb ac angerdd cyffredin am yr hyn a wnawn, a’n huchelgais cyfunol.
Bod yn rhyngwladol yn ei rhagolygon, o ran dyhead ac wrth gynrychioli'r sector dramor.
Hyrwyddo talent Cymru yng Nghymru ac i'r Byd: awduron, darlunwyr, golygyddion, cyhoeddwyr ac eraill.
Hyrwyddo mynediad at gynnwys print, digidol ac ar-lein.
Sicrhau bod pawb yn cydnabod gwerth hawliau, gan gynnwys awduron/darlunwyr, fel bod mwy o fuddsoddiadau'n llifo i mewn i'r sector.
Cynrychioli a sicrhau llais cryf i'r sector cyhoeddi o fewn y Diwydiant Creadigol/Cymru Greadigol Llywodraeth Cymru.
Adeiladu ac amlygu achos pendant ynghylch pwysigrwydd cyhoeddi yng Nghymru.
Deall pwysigrwydd economaidd unigolion a chymunedau yn y sector microfusnesau a busnesau bach a chanolig.
Hyrwyddo gwerth ‘y Bunt Gymreig’ a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol o ran sicrhau cytundebau sector gyhoeddus sy'n berthnasol i'r sector cyhoeddi, a chydnabod yr effaith ehangach ar gymunedau wrth fuddsoddi a datblygu'r sector.
Hyrwyddo rhagoriaeth gyhoeddi, arloesedd, creadigrwydd, gwydnwch a chynaliadwyedd.
Cydnabod pwysigrwydd llythrennedd a chynyddu nifer y darllenwyr ar bob lefel gallu.
Rydym yn ddwyieithog yn ein hunaniaeth a'n gweithrediadau.
Rydym yn gynhwysol ac yn amrywiol yn ein haelodaeth a'n hymagwedd.
- Cynrychioli cyhoeddwyr o Gymru wrth siarad â sefydliadau eraill:
Cyngor Llyfrau Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Cymru Greadigol, Llywodraeth Cymru, y cyfryngau, Prifysgolion Cymru gyda chyrsiau sy'n berthnasol i'r sector, Cyrff masnachol eraill yn y DU a ledled y byd.
- Lobïo a gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac unrhyw sefydliadau ac achosion perthnasol eraill.