Aelodaeth
Eich gwahoddiad i fod yn rhan o Cyhoeddi Cymru Publishing Wales
Ffurfiwyd Cyhoeddi Cymru/Publishing Wales (CCPW) i fod yn llais cynhwysol, cydnabyddedig ac awdurdodol i’r sector cyhoeddi yng Nghymru, gan gynrychioli holl gyhoeddwyr Cymru er ein budd ni ar y cyd ac er budd y sector. Bydd y sefydliad yn cefnogi aelodau i ehangu ein cyrhaeddiad ledled y byd gan feithrin awyrgylch uchelgeisiol a phroffesiynol lle gall y sector ffynnu.
Aelodaeth
Rydym yn cynnig model aelodaeth syml a hygyrch gyda ffioedd yn seiliedig ar drosiant:
- Trosiant hyd at £500,000 – £50
- £500,001 i £1m – £100
- £1m i £5m – £200
- Aelodaeth ohebol
Mae aelodaeth lawn yn agored i gyhoeddwyr llyfrau, cyfnodolion a chylchgronau sy’n cyhoeddi mwy na 2 waith arwyddocaol o safon broffesiynol mewn print neu ar-lein bob blwyddyn.
Buddion i aelodau llawn:
Bod yn rhan o lais cyffredin ar gyfer y byd cyhoeddi yng Nghymru – gyda’n gilydd yn gryfach
Mynediad i ddigwyddiadau rhwydweithio a grwpiau diddordeb arbennig
Adran arddangos aelodau ar wefan CCPW
Presenoldeb/cynrychiolaeth gyda chymhorthdal mewn sioeau masnach ac arddangosfeydd
Cylchlythyr chwarterol
Marchnata a hyrwyddo drwy’r cyfryngau cymdeithasol
Bydd aelodaeth ohebol yn agored i awduron, darlunwyr, golygyddion, darllenwyr proflenni, dylunwyr, argraffwyr a phecynwyr. Cwblhewch y ffurflen isod a chyflwynwch eich cais.