Robat Gruffudd

Mae Cyhoeddi Cymru yn hynod o drist i glywed am farwolaeth Robat Gruffudd, sylfaenydd gwasg Y Lolfa a ffigwr canolog yn niwydiant cyhoeddi Cymru.
Robat Gruffudd contributed immensely to the publishing industry in Wales, and the influence of his work is still evident today through the ongoing success and work of Y Lolfa.
Fel sylfaenydd Y Lolfa yn 1967, roedd Robat Gruffudd yn rhan o ysbryd chwyldroadol y 60au, yn gwthio ffiniau a siapio’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, gan lunio dyfodol cryfach i’r Gymraeg o fewn y diwydiant.
“Dyma gawr yn y byd cyhoeddi, ac arwr i nifer, gan gynnwys fy hun. Roedd yn ddyn hyfryd o gynnes, a doniol iawn gyda’i hiwmor sych. Bydd colled enfawr ar ei ôl.”
- Ashley Drake, Is-Gadeirydd Cyhoeddi Cymru
Mae Cyhoeddi Cymru yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr Robat Gruffudd i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ac yn estyn cydymdeimlad gyda’i deulu, ei ffrindiau, a phawb yn Y Lolfa yn ystod y cyfnod trist hwn.