Cymru ar lwyfan y byd yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Ar ddechrau’r mis, cafwyd cyhoeddwyr Cymreig y cyfle i arddangos eu cyhoeddiadau a chynrhychioli’n diwydiant cyhoeddi yn un o ddigwyddiadau llenyddol pwysicaf y byd.
Mae Ffair Lyfrau Frankfurt (Frankfurter Buchmesse) yn arddangosfa blynyddol pum-diwrnod o hyd, yn dod â chyhoeddwyr llyfrau ar draws y byd at ei gilydd. Mae’n cynnig cyfle i gyhoeddwyr greu cysylltiadau rhyngwladol gwerthfawr a thrafod cyfleoedd cyfieithu ac hawliau cyhoeddi.

Daeth 236,000 o ymwelwyr i grwydro’r 4,000 o arddangoswyr yn y 78fed Frankfurter Buchmesse - gyda stondin Cymru yng nghanol y bwrlwm.
Diolch i Gyngor Llyfrau Cymru, cafodd Cyhoeddi Cymru estyn cyfle i’n aelodau gael silff arddangos yn y stondin. Yr aelodau hynny oedd:
- Atebol & Sebra
- Calon & Gwasg Prifysgol Cymru
- Crown House Publishing
- Dragon Press (Rily Publications)
- Firefly Press
- Graffeg
- H’mm Foundation
- Honno
- Parthian
- Seren Books
- Poetry Wales
- Welsh Academic Press & St David’s Press
- Y Lolfa
- Folding Rock Magazine
- Literature Across Frontiers & Cyfnewidfa Lên Cymraeg
Sylwadau ein Aelodau

Llun: Lucy Delbridge
"Roedd Ffair Lyfrau Frankfurt yn brofiad gwych i gysylltu gyda'n cwsmeriaid, dosbarthwyr, a ffrindiau o'r un anian ar draws y diwydiant cyhoeddi. Roedd yn gyfle prin i gyfnewid syniadau a darganfod cyfleoedd newydd. Mae'r ysbrydoledig i fod yn rhan o ddathliad llyfrau rhyngwladol a phrofi'r angerdd sy'n parhau i fwrw'r diwydiant yn ei flaen."
![]()
Lucy Delbridge
Crown House Publishing







