Skip to main content

Dr Graham Lawler

Daeth newyddion trist iawn atom yn ddiweddar am farwolaeth un o aelodau Cyhoeddi Cymru Dr Graham Lawler.

Bu’n athro mathemateg uchel ei barch ers yr 1980au cyn sefydlu busnes cyhoeddi addysgiadol oedd yn cynnwys y gwasgnod Studymates yn Abergele ym 2000.

Roedd Graham ymhysg yr aelodau cyntaf i ymuno gyda Chyhoeddi Cymru, bu’n ymddangos yn rheolaidd gyda ni yn Ffair Lyfrau Llundain  bu hefyd yn gyfrannwr brwd  i lawer o’n digwyddiadau ac ymgyrchoedd.

Mae Cyhoeddi Cymru yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at ffrindiau a theulu Graham; Bydd colled ar ei ôl yn y byd cyhoeddi.

–––––


It is with great sadness that we share the news of the death of one of our Cyhoeddi Cymru/Publishing Wales members, Dr Graham Lawler.

A well-respected and highly-regarded maths teacher since the early 1980s, Graham established his Abergele-based educational publishing business in 2000, which included the Studymates imprint. A loyal and committed supporter of Cyhoeddi Cymru, Graham was one of our very first members, who regularly exhibited with us at the London Book Fair and enthusiastically contributed to many of our events and activities.

Cyhoeddi Cymru Publishing Wales send our condolences to Graham’s friends and family; he will be sadly missed by his publishing colleagues.