
Cyhoeddwr o Gymru ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Iwerddon
Yn ddiweddar cyhoeddwyd y rhestr fer gwobrau Llyfr y Flwyddyn mewn Gwyddeleggan gan gorff diwylliannol yr Oireachtas, sy’n hybu’r iaith Wyddeleg.
Mae’r gwobrau wedi eu rhannu’n dri chategori, gan gynnwys gwobr Gradam de Bhaldraithe ar gyfer llyfrau sydd wedi eu trosi i’r Wyddeleg. O’r 6 llyfr ar y rhestr fer, mae 4 o’r rheiny yn dod o stabal Dalen Éireann, sef gwasgnod Gwyddeleg y cyhoeddwr Dalen (Llyfrau) Cyf o Gaerdydd.
Meddai Alun Ceri Jones, cyhoeddwr Dalen, “Rŷn ni wedi bod yn cyhoeddi mewn Gwyddeleg ers dros 10 mlynedd, ac wedi llwyddo i ddod â dros 90 o deitlau i ddarllenwyr Iwerddon dros y ddegawd honno. Mae gweld 4 o’n llyfrau diweddara ar y rhestr fer yn fraint ryfeddol.”
Mae Dalen yn arbenigo ar gyhoeddi addasiadau o rai o glasuron cyfrwng straeon stribed Ewrop, ac wedi gwneud hynny yn Gymraeg, Cernyweg, Gaeleg, Sgoteg, yn ogystal â Gwyddeleg. Ymhlith rhai o gyfresi mwya poblogaidd y cyhoeddwr mae Asterix a Tintin.
Ar gyfer y Gradam de Bhaldraithe, llwyddodd llyfrau Na Draoithe: 1. Na hÍobartí Oghaim, Páirc an Chrócaigh, Lúcás Lúfar: An Glasach, a Saraifín is a Mórshaothar Iontach gyrraedd y rhestr fer.
Ychwanegodd Alun Ceri Jones, “Mae cyfres Na Draoithe eisoes wedi ei chyhoeddi yn Gymraeg fel Y Derwyddon, a Lúcás Lúfar yn Gymraeg fel Lewsyn Lwcus: Traed Wadin. Hwyrach bod rhai yn cofio Saraifín is a Mórshaothar Iontach fel Seraffin yn Gymraeg, ond teitl sengl am gyflafan stadiwm Croke Park yn Nulyn yn 1920 yw Páirc an Chrócaigh – does dim fersiwn Gymraeg na Saesneg ar gael o’r stori bwerus, ddirdynnol hon.”
“Rŷn ni wedi llwyddo i ddod â thîm o awduron a golygyddion profiadol, ifanc a chryf at ei gilydd ar gyfer ein teitlau Gwyddeleg, ac mae ein diolch yn fawr iddyn nhw am eu dycnwch a’u gwaith campus wrth weithio ar ein teitlau.”
Dywedodd Máirín Nic Dhonnachadha, Prif Weithredwr yr Oireachtas, “Llongyfarchiadau i’r cyhoeddwyr, awduron, arlunwyr a chyfieithwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni. Mae eu hymdrech yn sicrhau bod darllenwyr o bob oedran a phob cefndir yn gallu cael gafael ar lyfrau bendigedig trwy gyfrwng y Wyddeleg. Rŷn ni’n falch ofnadwy o gael dathlu eu llwyddiant heddiw.”
Nid dyma’r tro cynta i lyfrau Dalen ymddangos ar restr fer Gradam de Bhaldraithe; cipiodd un o’u teitlau Tintin, Taisce Raga Rua, y wobr yn 2021.
Anfonwn dymuniadau gorau i Dalen sy’n aelodau o Gyhoeddi Cymru pan bydd enillydd Gradam de Bhaldraithe 2025 yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn Theatr Genedlaethol Iwerddon yn Galway ar 30 Medi 2025.